MANIFFESTO AWYR IACH CYMRU 2021

Rydym yn gofyn am un peth. Cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru o fewn 100 diwrnod.

Ein pum blaenoriaeth

1.Cyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru sy’n ymrwymo i fynd i’r afael â llygredd aer fel rheidrwydd iechyd cyhoeddus. Deddf newydd, fydd yn diogelu ein ‘hawl i anadlu’ drwy ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gyda’r gofyniad gorfodol i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd, fydd yn cael ei hasesu yn erbyn canllawiau ansawdd aer cyfreithiol gan fwrdd asesu a monitro annibynnol.

2. Gyda chefnogaeth Cronfa Aer Glân, rydym yn galw am ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol gynyddu’r gwaith o fonitro, asesu a gweithredu i wella ansawdd aer. Bydd monitro o’r fath yn helpu i adeiladu cynllun aer glân cenedlaethol effeithiol, fydd yn cael ei adolygu bob pum mlynedd ac yn defnyddio dulliau effeithiol i leihau lefelau llygredd er mwyn gwella iechyd cyhoeddus a bodloni targedau ansawdd aer cenedlaethol cyfreithiol.

3. Gan ganolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol, rydym eisiau i bob ysgol yng Nghymru dderbyn cyllid a chefnogaeth i gyflwyno School Streets a chreu amgylchedd croesawgar a diogel i blant gerdded a beicio i’r ysgol.  Mae angen i phob Awdurdod Lleol fod yn annog ymddygiadau cadarnhaol yn ein hysgolion, trwy hyrwyddo teithio actif ac amddiffyn datblygiad iach cenedlaethau’r dyfodol rhag gwenwynau niweidiol.

4. I sicrhau bod mwy o bobl yn cerdded, rhedeg a beicio, rydym eisiau cyfoethogi cymunedau gyda strwythurau gwyrdd iach a deniadol, gyda mannau cymunedol a llwybrau gwyrdd sy’n gwella ein llesiant ac ecosystemau lleol. Dylai pawb fod â mynediad pum munud, hawdd at ardal werdd gartref, yn y gwaith ac yn y llefydd lle mae ein plant yn dysgu a thyfu. Rydym angen newidiadau gwybodus, fydd yn gofalu am ein hysgyfaint yn ogystal ag ysgyfaint y blaned.

5. Er mwyn helpu pobl i beidio defnyddio’r cerbydau mwyaf llygrol ar ein ffyrdd, rydym yn galw am gefnogaeth i thargedu fasnachu mewn cerbydau disel a phetrol ar gyfer eu fersiynau trydan / hybrid ac annog symudiad moddol o ddefnyddio ceir / fan i feiciau, e-feiciau, e- beiciau -cargo a chlybiau rhannu e-geir.

Ein cefndir

Mae Awyr Iach Cymru (HAC) yn dod â sefydliadau sy’n rhannu’r un weledigaeth am Gymru fwy iach a gwyrdd at ei gilydd. Rydym eisiau i’n cenedl fod yn lle gwell, lle mae gan bobl yr hawl i anadlu aer glân, ac nid oes rhaid iddynt ddioddef o effeithiau niweidiol llygredd aer.

Rydym yn codi ymwybyddiaeth o effaith ansawdd aer gwael ar ein bywydau bob dydd. Rydym yn ceisio siapio’r drafodaeth yng Nghymru am sut rydym yn mynd i’r afael â’r problemau hyn, a dylanwadu ar benderfyniadau polisi; er mwyn dechrau achos ar gyfer datrysiadau lleol ymarferol.

Creu Cymru Iachach

Mae llygredd aer yn cyfrannu at bron i 1,400 o farwolaethau cynnar, ac yn costio oddeutu £1biliwn bob blwyddyn i GIG Cymru. Mae teuluoedd ledled Cymru’n gweld effaith llygredd aer ar eu bywydau bob dydd. Rydym yn gweld mwy a mwy o blant yn datblygu asthma, ac nid yw eu hysgyfaint yn datblygu fel y dylent, ac mae cyflyrau iechyd presennol pobl yn gwaethygu.

I bobl fregus, gallai cynnydd tymor byr mewn llygredd aer effeithio ar eu hiechyd, ac mae llawer o bobl angen triniaeth frys yn yr ysbyty. Hefyd, mae bod yn agored i lygredd am gyfnod hir yn cynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau megis clefyd y galon, dementia, cancr yr ysgyfaint, diabetes a mwy. Mae iechyd meddwl pobl yn dioddef hefyd, ac mae ymchwil yn dangos bod ansawdd aer gwael yn gysylltiedig â lefelau uwch o iselder, anhwylder deubegynol, a sgitsoffrenia.

Mae’n rhaid i wella iechyd cyhoeddus fod ar flaen ein brwydr i leihau llygredd aer a chreu dyfodol iachach a chynaliadwy i bawb.

Dyfodol Mwy Glan a Gwyrdd

Newid hinsawdd yw’r broblem fwyaf mae ein cenhedlaeth yn ei hwynebu. Bydd y penderfyniadau rydym yn eu gwneud nawr yn cael effaith ar ein planed a’n hiechyd – felly mae’n bwysig ein bod ni’n blaenoriaethu adferiad gwyrdd a theg. Bydd aer glanach yn sicrhau iechyd a llesiant gwell i’r genhedlaeth bresennol, a chenedlaethau’r dyfodol. Mae ein hamgylchedd yn darparu’r aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed, a’r bwyd rydym yn ei fwyta. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â llygredd aer er mwyn i ni ddiogelu’r adnoddau hanfodol hyn, a diogelu iechyd pobl.

Cefnogi Teithio Actif

Mae’n fwy clir nag erioed fod y ffordd rydym yn teithio yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau’r bobl o’n cwmpas. Mae’r cynnydd yn nifer o bobl sydd wedi bod yn cerdded a beicio yn ystod y cyfnod clo wedi dangos fod pobl yn fwy tebygol o adael eu ceir gartref os yw ffyrdd yn fwy diogel a thawel. Er lles ein hiechyd a’n planed, ni allwn adael i geir barhau i reoli’r ffyrdd. Wrth i ni edrych at y dyfodol, mae ein trefi a dinasoedd angen bod yn llefydd glanach, mwy gwyrdd a chynaliadwy i fyw ynddynt.

Creu Cymunedau Teg

Mae gan bawb yr hawl i anadlu aer glân ac iach. Mae pob un ohonom yn cael ein heffeithio gan lygredd aer, ond mae rhai unigolion a chymunedau yn cael eu heffeithio’n fwy na’i gilydd. Mae angen camau gweithredu penodol i gywiro’r anghydraddoldebau hyn, diogelu iechyd pobl a galluogi pobl a busnesau i leihau eu cyfraniad at y broblem. Gyda’n gilydd, gallwn wneud y newidiadau sydd eu hangen i adeiladu dyfodol tecach i bawb.